Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad 2024
Safleoedd Carafan

Gellir prynu Safleoedd Carafan o flaen llaw i’r ŵyl a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Gwener 26 Ebrill 2024 os oes safleoedd ar ôl. Caiff ceisiadau eu derbyn trwy’r post, dros y ffôn a thrwy e-bost.

Darllenwch y llyfryn gwybodaeth am ragor o fanylion.

Canolbarth Cymru

Gallwch chwilio dros 360+ o leoedd gwych i aros yng Nghanolbarth Cymru – gwych os ydych chi’n chwilio am y cyfraddau gorau ar-lein, dim ffi archebu, gwerth gwych am arian a lle gwych i aros (pwy sydd ddim, wedi’r cyfan) .

Chwiliwch ac archebwch am westai, Gwely a Brecwast y Canolbarth, llety i westeion, hunanarlwyo, meysydd carafanau a gwersylla, safleoedd glampiau, hosteli a thai bynciau, neu rywbeth ychydig yn wahanol.

Bannau Brycheiniog

Mae llawer o lefydd i aros o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i gyrion. Mae gennym bopeth o fythynnod hunanarlwyo i westai 5 seren i westai cyfeillgar gyda golygfeydd godidog.


Mae Llanelwedd, Llanfair ym Muallt a’r ardal gyfagos yn cynnig dewis gwych o fusnesau bwely a brecwast, gwestai, bythynnodd, tai llety a mannau gwersylla yn un o ardaloedd gwledig mwyaf godidog ac ysblennydd y DU.

Gall llety fod yn ddrud yn ystod yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf, a chaiff llawer o ystafelloedd eu harchebu hyd at flwyddyn ymlaen llaw, felly mae’n werth archebu’n gynnar bob tro.

Fodd bynnag, bydd llety ar gael bob amser trwy chwlio yn Findmeabed.co.uk

Findmeabed.co.uk yw ein gwasanaeth llety swyddogol ac mae’n cynnig mynediad 24/7 i chi at wefan sy’n caniatáu i chi weld ac archebu eich llety.

Cynnig Llety

Os ydych chi’n berchennog sy’n dymuno cynnig llety, cofrestrwch eich eiddo os gwelwch yn dda.

Os hoffech chi hysbysebu eich maes gwersylla, cysylltwch â Sarah i holi am brisiau.

Cysylltwch os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am lety:
Sarah Whitticase
Findmeabed.co.uk
Ffôn
07375 396748