Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel un o sioeau stoc dethol gorau Ewrop, bydd y Ffair Aeaf yn denu’r torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.

Ynghyd â’r amserlen lawn arferol o gystadlaethau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i’r siopwr craff brynu anrhegion unigryw a gwreiddiol.

Bydd y neuadd fwyd yn cael ei llenwi gan gynhyrchwyr gorau Cymru yn dangos eu cynnyrch ac yn temptio ymwelwyr i roi cynnig ar yr amrywiaeth o ddanteithion hyfryd sydd ar gael.

Bydd y Ffair Aeaf 2024 yn agor o ddydd Llun 25 a dydd Mawrth 26 Tachwedd.

Digwyddiadau

Dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosiadau, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digonedd i'w weld a'i wneud yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. Gallwch weld y rhaglen o ddigwyddiadau dyddiol a chael rhagor o fanylion yma:

PRYNWCH EICH TOCYNNAU NAWR

Osgowch y ciwiau wrth y giât trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.

Sut i'n cyrraedd

Rydym ni'n cynnig LLU o lefydd parcio am ddim ar faes y sioe i'r sawl sy'n cyrraedd mewn car, a gallwch chi ddefnyddio cludiant cyhoeddus i ddod yma hefyd.

Awyddus i gynllunio ymlaen llaw?

Dyma ddyddiadau’r Ffair Aeaf yn y dyfodol: 25 – 26 Tachwedd 2024 / 24 - 25 Tachwedd 2025